Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Ionawr 2018
Amser:
14.45 -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4504
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Gofynnodd Lee Waters AC am gywiro pwynt 4.2 yng nghofnodion 15 Ionawr 2018.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd Tracey Burke i:
· Ganfod a wahoddwyd sefydliadau'r trydydd sector i gymryd rhan yn y gweithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod datblygiad y prosiect Pathfinder
· Anfon rhestr o'r deg grant sy'n ffurfio'r grant integredig sengl arfaethedig
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y dylid paratoi adroddiad byr.
5.2 Cytunwyd y dylai'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd ynghylch Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig.
6.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ohebiaeth a ddaeth i law ar brosiect Cylchffordd Cymru a barn y mwyafrif o'r Pwyllgor oedd cynnal sesiwn lafar gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar 5 Chwefror.